Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

NAWR Y 
PERFFORMIAD

Mae Nawr Yr Arwr \ Now The Hero yn cyfuno tri chyfnod o ryfel:y cyfnod Celtaidd – wedi’i gynrychioli gan yr arwrgerdd ryfel, ‘Y Gododdin’; y Rhyfel Mawr – wedi’i gynrychioli gan Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Brangwyn; a’r cyfnod cyfoes – wedi’i gynrychioli gan filwr o Abertawe sy’n rhoi’r llinyn storïol i’r perfformiad.

icon-play-white-opt Created with Sketch.

Cyflwyniad

Crynodeb byr gan Marc Rees

Bydd modd i gynulleidfaoedd fwynhau:

  • cyrchoedd ar y traeth yn Abertawe a’r strydoedd o amgylch Neuadd y Ddinas
  • perfformiadau ac arddangosfeydd yn Neuadd Brangwyn a Neuadd y Ddinas
  • Swper Cynhaeaf

Mae Nawr Yr Arwr \ Now The Hero yn gam arall ar daith greadigol Rees wrth greu theatr sy’n ymateb i’r lleoliad, gydag elfen gerddorol yn greiddiol i’r prosiect. Requiem i ymgolli ynddi fydd hon a'r cyfan yn deillio o gywaith gwreiddiol gan Jóhann Jóhannsson ac Owen Roberts.

Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA, fydd yn gyfrifol am y libreto (awdur ‘Mametz’, ‘The Passion’, ‘Aberfan: The Green Hollow’), a Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton ac enillwyr gwobr Grammy, fydd yn canu.

Fel sydd yn aml i’w ddisgwyl yng ngwaith Rees, profiad promenâd fydd hwn, a’r gynulleidfa'n cael ei thywys gan brif gymeriad y sioe, sef y Protestiwr Heddwch. Eddie Ladd, y berfformwraig o Gymru sydd wedi cydweithio droeon â Rees, fydd yn chwarae’r cymeriad hwn. 

Mae hanes y Protestiwr Heddwch yn wrthbwynt hollbwysig i stori’r milwr cyfoes. 

Pwy yw gwir Arwr y stori hon? Dewch i weld drosoch eich hun.

Eddie-Ladd.jpg?mtime=20180201103229#asset:179Protestiwr Heddwch / Eddie Ladd - Llun gan Hywel Harris

NAWR AM
FWY

I gyd-fynd â'r prif berfformiadau, bydd gŵyl gelfyddydol fechan yn cael ei chynnal dros benwythnos. Bydd Nawr Am Fwy yn cynnwys holl sefydliadau celfyddydol y ddinas, yn fach a mawr.Yn eu ffyrdd eu hunain, bydd pob un yn ymateb i'r prif themâu – Paneli'r Ymerodraeth a gwaddol y Rhyfel Mawr, ac effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthynas pobl â’i gilydd.Yn ystod Nawr Am Fwy, fe gynhelir digwyddiadau arbennig am un tro’n unig, arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i’r teulu, celf gyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau a hynny gan artistiaid cyfoes mewn lleoliadau niferus drwy Abertawe.  

Bydd arddangosfa ‘End of Empire’ gan Yinka Shonibare MBE (RA) yn Oriel Glynn Vivian yn ganolog i Nawr Am Fwy, a honno wedi’i chomisiynu gan 14-18 NOW ac wedi ymddangos yn wreiddiol yn Turner Contemporary, Margate yn 2016.Mae’n waith hynod o arwyddocaol, ac yn wrthbwynt o bwys i NYA \ NTH – mae’n drosiad o ddeialog, cydbwysedd a gwrthdaro ac yn symbol o’r posibilrwydd y gall dwy ochr gyfaddawdu a datrys eu problemau.  

Mae mynediad AM DDIM i’r holl leoliadau a’r prosiectau sy’n rhan o Nawr Am Fwy, a bydd manylion y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael cyn hir.

Darllen mwy