Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi manylion am sut rydym yn gweithio a’r systemau rydym yn eu defnyddio i gasglu a chadw gwybodaeth. Efallai y byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon o dro i dro, yn ôl y galw.

Fel cyd-gynhyrchydd Nawr Yr Arwr/Now The Hero, Canolfan y Celfyddydau Taliesin sy’n gyfrifol am y rhestr bostio/cofrestru a’r system docynnau ar y wefan hon. 

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu gennych chi. Bydd unrhyw fanylion personol a gaiff eu casglu drwy’r wefan hon a’u rhoi gennych chi'n cael eu prosesu yn unol â'r Ddeddf. Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn benthyg eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti nac i un o Adrannau’r Llywodraeth oni bai eich bod yn rhoi caniatâd inni neu fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol inni wneud hynny.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwarchod preifatrwydd ein cwsmeriaid ac i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn rhwystro neb rhag cael mynediad i wybodaeth neu ei datgelu heb awdurdod, mae gennym systemau corfforol, electronig a rheolaethol i ddiogelu a gwarchod y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu ar-lein.

Gyda chydsyniad y rhai sy’n ymweld â’r wefan hon, rydym yn cadw gwybodaeth gan gynnwys enwau a chyfeiriadau e-bost, os bydd yr ymwelydd yn rhoi’r rheini.

Yn wirfoddol ac ar ôl cydsynio y bydd cwsmeriaid yn rhoi gwybodaeth i Nawr Yr Arwr/Now The Hero a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin. Gall cwsmer olygu gwybodaeth neu ddad-danysgrifio o wasanaethau’r wefan hon ar unrhyw adeg, ar-lein, neu drwy gysylltu â ni.

Mae’r wefan yn cynnwys dolenni i safleoedd allanol. Nid yw Nawr Yr Arwr\Now The Hero a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd nac ansawdd unrhyw ddeunydd sydd wedi’i gynnwys ar y safleoedd hyn ac ni ddylid tybio bod rhoi dolenni i safleoedd allanol yn golygu bod Nawr Yr Arwr/Now The Hero na Chanolfan y Celfyddydau yn cymeradwyo’r farn a fynegir neu’r gwasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.

Fel cyd-gynhyrchydd Nawr Yr Arwr/Now The Hero, mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn dosbarthu gwybodaeth drwy e-bost gan ddefnyddio'r darparwr gwasanaeth, Mailchimp. Dilynwch y dolenni isod i weld Polisi Preifatrwydd a Diogelwch Mailchimp:

https://mailchimp.com/legal/

https://mailchimp.com/about/security/