Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)
Now The Hero / Nawr Yr Arwr

1918-2018
100 MLYNEDD YN DDIWEDDARACH
5 NOSON O THEATR EPIG

ABERTAWE

25-29 | 09 | 2018

5 noson o theatr epig a phrofiad i ymgolli ynddo a fydd yn dwyn y gynulleidfa ar daith ryfeddol, a hynny o Fae Abertawe i Neuadd Y Brangwyn.

Mawrth 25 – Sadwrn 29 Medi 2018

6.30pm-9.00pm

Tocynnau £15/£12

Bydd cynhyrchiad beiddgar Marc Rees,sy’n adrodd tair stori ryfel a’r rheini’n cydblethu, yn dod yn fyw gyda gwrthbwynt o heddwch a gobaith.Wedi ysbrydoli Rees y mae arwrgerdd hynafol, portread o filwr o Abertawe sy’n gwasanaethu heddiw, a Phaneli’r Ymerodraeth Brydeinig.

Yn ganolog i bob perfformiad y mae Requiem gyda libreto gan Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton, fydd yn canu.Owen Morgan Roberts sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth, a honno’n deillio o gywaith gwreiddiol rhyngddo a’r diweddar Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd am Oscar.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan bwysig iawn o flwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW, sef comisiwn celfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Dyma hefyd uchafbwynt Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.

Darllen mwy
icon-play-white-opt Created with Sketch.

NAWR YR ARWR \ NOW THE HERO

Y PROSES

Dyddiadur gweledol tu ôl i'r llenni yn dangos proses greadigol NYA / NTH.

Mwy

CERDDORIAETH
/ GEIRIAU

Mae Nawr Yr Arwr yn gam arall ar daith greadigol Marc Rees wrth greu theatr sy’n ymateb i’r lleoliad, drwy osod elfen gerddorol yn greiddiol i’r prosiect y tro hwn.Requiem i ymgolli ynddi fydd y gerddoriaeth, a honno wedi’i chyfansoddi gan Johann Jóhannsson o Wlad yr Iâ, sydd wedi’u enwebu ddwywaith am Oscar, ar y cyd ag Owen Morgan Roberts, yr artist trawiadol o Gymru.Owen Sheers, yr awdur o Gymru, fydd yn gyfrifol am y libreto, a Polyphony, côr enwog Stephen Layton, fydd yn canu.

Mwy

NAWR AM
FWY

Bydd Nawr Am Fwy yn rhoi cyfle i ymwelwyr ymwneud â thema Nawr Yr Arwr dros y penwythnos i gyd. Mae Abertawe yn ddinas llawn amrywiaeth sy’n fwrlwm o dreftadaeth, diwylliant a chreadigrwydd. Mae’n bair o amgueddfeydd, orielau, parciau a theatrau, a bydd y rheini, yn eu ffyrdd eu hunain, yn dehongli effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthynas pobl â’i gilydd. Fe wneir hyn drwy ddigwyddiadau arbennig, arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i’r teulu, celf gyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau.

Mwy

GRAFT:
MAES LLAFUR Y PRIDD

Prosiect tir sy’n ymwneud â bwyd a gofod i greu gweithdy cymunedol addysgol, gyda chwricwlwm gwahanol yn arwain y cyfan.Yr artist Owen Griffiths sy’n datblygu’r prosiect hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a Nawr Yr Arwr sy'n ei gomisiynu.

Mwy